Loading...
Upgrade or join Advantage to secure priority tickets for cinch Championships 2025
Skip to content

Tennis Wales

Welsh duo to play in famous Orange Bowl Championships/Dau o Gymru i chwarae ym Mhencampwriaethau enwog yr Orange Bowl

• 3 MINUTE READ

Bydd dau chwaraewr tenis o Gymru, Awen Gwilym-Davies a Niall Pickerd-Barua, yn chwarae ym Mhencampwriaeth enwog yr Orange Bowl yn UDA.

Mae'r twrnamaint yn Coral Gables yn Florida, sy'n cychwyn ar 11 Rhagfyr, yn cael ei ystyried gan lawer fel Pencampwriaethau Answyddogol y Byd ar gyfer chwaraewyr dan 14 a dan 12 oed.

Mae llu o enwau mawr tenis wedi chwarae yn y digwyddiad, gan gynnwys Chris Evert, Andre Agassi, Justine Henin, Andy Roddick, a Caroline Wozniacki.

Dydy Awen, o Gaerdydd, methu aros i chwarae yn y bencampwriaeth, meddai: “Dwi'n gyffrous iawn ac yn teimlo'n freintiedig iawn i fod yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor enwog. Dwi wedi clywed cymaint am dwrnamaint yr Orange Bowl ers yn ferch fach gan ei bod yn cael ei hystyried fel y pinacl ar gyfer tenis iau.

“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae sawl twrnameint yn Ewrop eleni ond bydd chwifio'r faner dros Tenis Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn mynd â hi i'r lefel nesaf! Hoffwn ddiolch i Tennis First am fy nghefnogi i gyrraedd yno hefyd - ni fyddai'n bosib hebddyn nhw. “Dwi jyst isie ymgolli fy hun yn y cyfan - y lleoliad, y digwyddiad, yr her o chwarae yn erbyn y gorau yn y byd, a'r haul!”

Meddai Niall, hefyd o Gaerdydd: "Rwy'n hynod gyffrous i gael chwarae'r digwyddiad y Junior Orange Bowl 12U yn Florida. "Mae'n ddigwyddiad mor fawreddog. Rwy'n disgwyl iddo fod yn gystadleuol iawn a bydd gemau anodd. Rwy'n ffodus fy mod wedi cael fy newis i fynd ar daith swyddogol Prydain Fawr gyda hyfforddwyr Cenedlaethol yr LTA."

Dywedodd Chris Lewis, Pennaeth Perfformio Tenis Cymru: "Bydd pawb yn Tenis Cymru yn cefnogi Awen a Niall. Mae'r Orange Bowl yn un o'r prif bencampwriaethau iau rhyngwladol ac yn rhoi cyfle i Awen a Niall chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau yn y byd yn eu grŵp oedran. Pob lwc i’r ddau."

Welsh players Awen Gwilym Davies and Niall Pickerd-Barua are set to play in the renowned Junior Orange Bowl Championship in the USA.

The tournament at Coral Gables in Florida, which gets underway on 11 December, is seen by many as the unofficial World Championships for under-14 and under-12 players.

A whole host of big names from tennis have played in the event, including Chris Evert, Andre Agassi, Justine Henin, Andy Roddick, and Caroline Wozniacki.

Awen, from Cardiff, cannot wait to play in the championship, commenting: “I’m very excited and feel very privileged to be taking part in such a prestigious event. I’ve heard so much about the Orange Bowl tournament since I was a little girl as it’s considered the pinnacle for 12 and under junior tennis.

“I’ve been lucky enough to play tournaments in Europe this year but flying the flag for Welsh tennis on the international stage will take it to the next level. I’d like to thank Tennis First for supporting me to get there too – it wouldn’t be possible without them.  

“I just want to soak it all in – the venue, the event, the challenge of playing against the best in the world, and the sun!”

Niall, also from Cardiff, commented: “I am super excited to play the 12 and under Junior Orange Bowl event in Florida.

 

“It is such a prestigious event. I am expecting it to be very competitive and there will be tough matches. I am fortunate to have been selected to go on the GB official trip with the LTA National coaches.”

 

Chris Lewis, Tennis Wales Head of Performance said: “Everyone at Tennis Wales will be rooting for Awen and Niall. The Orange Bowl is one of the premier international junior tournaments and will see Awen and Niall play against the top players in the world in their age group. Pob lwc both.”

Cookies on LTA site

We use cookies on our site to ACE your experience, improve the quality of our site and show you content we think you’ll be interested in. Let us know if you agree to cookies or if you’d prefer to manage your own settings.